- Adref/Home
- Gwybodaeth allweddol/Key information
- Anghenion Dysgu Ychwanegol – Additional Learning Needs
Anghenion Dysgu Ychwanegol – Additional Learning Needs
Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghymru - beth sy'n digwydd?
Additional Learning Needs in Wales - what's happening?
ADY- Beth sy’n newid?
Mae Llywodraeth Cymru yn trawsnewid disgwyliadau, profiadau a deilliannau i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).
I wneud hyn, datblygwyd rhaglen trawsnewid system anghenion dysgu ychwanegol (ADY) a fydd yn gweddnewid y systemau gwahanol ar gyfer anghenion addysgol arbennig (AAA) mewn ysgolion ac ar gyfer anawsterau a/neu anableddau dysgu (AAD) mewn addysg bellach, er mwyn creu system unedig i gefnogi dysgwyr ADY o 0 hyd at 25 oed.
Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y cysylltiaidau/ lluniau isod:
__________________________________________________________________________________________
ALN – What’s changing?
The Welsh Government is transforming expectations, experiences and outcomes for children and young people with additional learning needs (ALN).
To do so, the additional learning needs (ALN) transformation programme has been developed, which transforms the separate systems for special educational needs (SEN) in schools and learning difficulties and/or disabilities (LDD) in further education, to create a unified system for supporting learners from 0 to 25 with ALN.
Gwybodaeth i Blant - ADY
Wrth baratoi ar gyfer ymgorffori y Bil Trawsnewid ADY sy’n cael ei fabwysiadu gan ysgolion ledled Cymru, dyma fideo i blant, pobl ifanc a theuluoedd sy’n esbonio’r system ADY newydd:
Information for Children - ALNIn preparation for the ALN Transformation Bill being adopted by schools across Wales, here is an animated video for children, young people and families which explains the new ALN system:
Am ragor o wybodaeth am ADY yn Sir Gâr cliciwch yma.
For further information on ALN in Carmarthenshire click here.
ADY yng Ngorslas / ALN in Gorslas
Pwy di pwy? Who's Who?
Mrs Angharad Price Dirprwy Bennaeth a CADY Deputy Headteacher and ALNCo |
Mrs Ann Davies Cydlynydd ELSA ELSA Co-ordinator |
Mae plant ag anghenion dysgu ychwanegol yn derbyn cefnogaeth dda yn Ysgol Gorslas. Mae'r gefnogaeth ychwanegol yn cynnwys gwaith gwahaniaethol gyda athro dosbarth, amser a dreulir yn derbyn cefnogaeth unigol neu fel rhan o grwp bach y tu allan i'r dosbarth, neu gymorth gan asiantaethau allanol. Mae darpariaeth ADY yn gyfrifoldeb pawb yng Ngorslas.
Children with additional learning needs are supported well in Gorslas School. Additional support includes differentiated work with the class teacher, time spent in small groups or with the help of outside agencies. ALN is everyone’s responsibility in Gorslas School.