Skip to content ↓

Diogelu / Safeguarding

Mae gan blant hawl i gael eu hamddiffyn ac mae hyn yn gyfrifoldeb ar bawb. Yma yn Ysgol Gorslas rydym wei ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel a chefnogol lle gall dysgwyr ddatblygu a thyfu'n unigolion aeddfed a chyfrifol. 

Mae gan Ysgol Gorslas ddyletswydd fugeiliol tuag at ei ddysgwyr,  mae’r ysgol yn chwarae rhan bwysig i atal camdriniaeth ac esgeulustod drwy greu a chynnal awyrgylch ddiogel i blant a phobl ifanc.


Mae pob aelod o staff yr ysgol hon yn gyfrifol am ddiogelu ac amddiffyn y plant sy’n ei mynychu. 


Os oes pryderon ynglŷn ag esgeulustra neu gam-drin corfforol, emosiynol neu rywiol, yna mae’n ddyletswydd ar y staff, yn unol â Threfn Diogelu Plant y Sir, i sôn am y mater wrth Gyd-gysylltydd Diogelu Plant yr ysgol.

Gall Cyd-gysylltydd yr ysgol ymgynghori â chyd-weithwyr proffesiynol yn ogystal ag asiantaethau perthnasol megis y Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol. Yn dilyn y trafodaethau hyn, efallai y bydd rhaid i gyd-gysylltydd yr ysgol gyfeirio’r plentyn yn swyddogol i’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol, yn unol â chanllawiau a phrotocol y Sir.

Yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol sy’n penderfynu a oes angen gweithredu neu beidio.

Oblegid natur y cyhuddiadau, ni fydd bob amser yn briodol i drafod materion gyda’r rhieni cyn cyfeirio'r plentyn.

Y Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Heddlu sy’n gyfrifol am ymchwilio i gyhuddiadau.

Mae’r ysgol yn dilyn Protocol Sir Gaerfyrddin a phe bai cyhuddiad yn erbyn aelod o staff fe fyddai’r ysgol yn dilyn camau gweithredu’r Sir. 


Children have a right to be protected and this is everyone's responsibility. Here at Ysgol Gorslas we are committed to providing a safe and supportive environment where learners can develop and grow into mature and responsible individuals.


Ysgol Gorslas has a pastoral duty to its pupils and the school plays an important role in preventing abuse and neglect by creating and maintaining a safe environment for children and young people.

Each member of staff at this school is responsible for safeguarding and protecting the children who attend. 

If there are concerns about neglect or physical, emotional or sexual abuse, then it is incumbent on staff, in accordance with the County's Safeguarding Procedures, to report the matter to the school's Child Protection Co-ordinator.

The school Co-ordinator may consult fellow professionals as well as relevant agencies such as Health and Social Services. Following these discussions, the school co-ordinator may need to officially refer the child to the Social Services Department, in accordance with the County's guidelines and protocol. It is for the Social Services Department to decide whether to take action.

Due to the nature of the allegations, it will not always be appropriate to discuss issues with parents before referring the child.

Social Services and the Police are responsible for investigating allegations.

The school follows the Carmarthenshire Protocol and if there was an allegation against a member of staff the school would follow the County's procedures.